BACHGEN IFANC
   
Bachgen ifanc un ar hugain,
Brwydro'n galed i gael byw,
Ar ol damwain fawr yn Munich,
Duncan Edwards aeth at Dduw.
Ffordd yr Arglwydd sydd yn ddirgel,
Ffordd y nefoedd ydyw hi,
Ar ol brwydro drwy y stormydd,
Nofiodd Duncan tros y lli.
   
Caled iawn oedd ar y meddyg,
Oedd yn ei wylio yn ei loes,
Wrth ei wely 'roedd y teulu,

Edrych arno'n cario'r groes.

Nid oedd gair yn dod o'i enau,

Byddar hefyd oedd ei glyw,

Fe ddaeth angau ar ol brwydro

Fe ddaeth gair o enau Duw.

 

   

Os yw corff yn mynd i'r ddaear,

Gyda galar a thristad,

Enaid byw sydd yno'n hedeg,

Draw i'r nefoedd Sanctaidd Wlad.

Gorffwys yno'n dawel Duncan,

Gyda'th cwmni'r Addfwyn Oen,

Nid oes yno loes na thrallod,

Draw o swn y byd a'i boen.

Anon. 1958

Back to index >>

©Copyright 2000 - 2020